MeiraEVANSEVANS - MEIRA. 17 Ionawr, 2016. Yn dawel yng nghartref Plas Gwilym, Pen-y-groes (gynt o Braich Dinas, Pennant) yn 81 mlwydd oed. Priod addfwyn a chariadus y diweddar John Richard Evans, hefyd chwaer, chwaer-yng-nghyfraith a modryb ofalus y bydd colled fawr ar ei hôl. Angladd brynhawn Mawrth, 26 Ionawr, 2016. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Jerusalem, Garndolbenmaen am 1.00 o'r gloch, gan ddilyn drachefn ar lan y bedd ym Mynwent Bethel, Dolbenmaen. Derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Meira, pe dymunir, i'w rhannu rhwng Ymchwil Cancr a Chronfa Staff Plas Gwilym. Ymholiadau pellach i Roberts & Owen, Birmingham House, Peny-groes. LL54 6PL. 01286 881280.
Keep me informed of updates